Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Mai 2017
Amser: 09.05 -
11.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4148
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC David Melding AC (yn lle Janet Finch-Saunders AC) Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Jon Tomkinson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC. Dirprwyodd David Melding AC ar ei rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y bobl ganlynol:
· Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru
· Joe Logan, Prif Weithredwr, Tai Calon
· Ffrancon Williams, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Gwynedd
· Debbie Green, Prif Weithredwr, Coastal Housing
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru.
3.2 Yn ystod y sesiwn cytunodd Shelter Cymru i roi nifer yr achosion yr ymdriniwyd â nhw o ran rhentu cartrefi yn breifat, y rhai a oedd wedi eu prynu o dan yr hawl i brynu.
4.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod.
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Chymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd.
4.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn perthynas â'r papur gwyn 'Diwygio llywodraeth leol: Cadernid ac adnewyddiad'.
4.4.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
4.5.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â hawliau dynol yng Nghymru.
4.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â diwygio llywodraeth leol.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.